Rwyf yn ysgrifennu mewn ymateb i ymholiad eich pwyllgor, ‘Yr Ardoll Brentisiaethau yng Nghymru’.

CITB yw’r Bwrdd Hyfforddiant Diwydiannol ar gyfer y diwydiant adeiladu ym Mhrydain Fawr, yn gweithio i sicrhau bod gan gyflogwyr adeiladu’r sgiliau a hyfforddiant maent eu hangen.

Er mwyn cael y mwyaf o’r cyllid y bydd Cymru yn ei dderbyn o’r Ardoll Brentisiaethau, dylai Llywodraeth Cymru sicrhau tri pheth:

·         Defnyddir yr enillion o’r ardoll i fuddsoddi mewn sgiliau

·         Dylid cael cysondeb o ran cyrchu prentisiaethau a’u hansawdd ar gyfer cyflogwyr sy’n gweithio ar draws ffiniau o fewn y DU

·         Dylai buddsoddiad mewn hyfforddiant ddarparu’r sgiliau cywir ar gyfer y diwydiant a thwf economaidd

Buddsoddi mewn Sgiliau

Dylai arian a delir gan gyflogwyr adeiladu Cymru i gefnogi hyfforddiant, megis yr Ardoll Brentisiaethau, gael ei ddefnyddio at y diben hwn. Mae’r Ardoll Brentisiaethau’n cynnig cyfle am fuddsoddiad cynaliadwy arwyddocaol mewn prentisiaethau yng Nghymru a all adeiladu ar raglen Llywodraeth Cymru sydd eisoes yn uchelgeisiol. Bydd grant blynyddol i Gymru o £138m erbyn 2019/20 o’r Ardoll Brentisiaethau. Gallai hwn roi cyfle i filoedd mwy o bobl ifanc fanteisio ar hyfforddiant o ansawdd, yn arwain at yrfa mewn adeiladu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod nod uchelgeisiol i ddarparu 100,000 o newydd-ddyfodiaid ychwanegol mewn prentisiaethau dros dymor 5 mlynedd y Cynulliad. Dylai grant bloc yr Ardoll Brentisiaethau gael ei ddefnyddio i ariannu prentisiaethau yng Nghymru, gan sicrhau y bydd cyflogwyr yn derbyn enillion ar eu buddsoddiad. Yn benodol, gallai’r cyllid gael ei ddefnyddio yn lle mynediad i gyllid yr UE, a fydd yn cael ei golli trwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop, sy’n cyfrannu £73m at brentisiaethau yng Nghymru dros bedair blynedd.

Yr unig eithriad i’r egwyddor hon y gwelwn yw mewn ardaloedd penodol lle mae wedi’i brofi bod diffyg galw am brentisiaethau ac adnabyddir hyfforddiant mwy perthnasol i gefnogi anghenion sgiliau cyflogwyr. Dylai hwn gael ei seilio ar ymgynghoriad â’r diwydiant, a Gwybodaeth o ansawdd am y Farchnad Lafur.

Cysondeb ar draws ffiniau

Mae gennym bryderon am gysondeb mewn hyfforddiant prentisiaethau ar draws ffiniau a’r cymhlethdod ychwanegol y mae hyn yn ei achosi ar gyfer cyflogwyr sy’n gweithio ar draws y DU. Bydd unrhyw Ardoll Brentisiaethau a delir yn erbyn cyflogeion sy’n byw yn Lloegr ar gael yn y Cyfrif Digidol. Er hynny, gall hwn dim ond gael ei wario ar brentisiaid sy’n gweithio yn Lloegr. Felly, mae’n bosib y bydd gan gyflogwyr a seilir yng Nghymru sydd â chyflogeion sy’n byw yn Lloegr gyllid ar gael mewn Cyfrif Digidol nad ydynt yn gallu ei wario. Credwn y bydd efallai’n briodol cyhoeddi asesiad llawn o effaith yr Ardoll Brentisiaethau cyn ei lansio er mwyn deall unrhyw faterion posib pellach sydd heb eu rhagweld.

Mae Llywodraeth Yr Alban hefyd wedi ymgynghori ar ddefnydd cyllid yr Ardoll Brentisiaethau. Awgrymodd CITB y dylai’r cyllid gael ei fuddsoddi i gefnogi twf, datblygu llwybrau newydd megis Prentisiaethau ar lefel Gradd, er mwyn targedu diwydiannau blaenoriaeth, ac i gefnogi grwpiau allweddol megis pobl ddi-waith. Credwn y dylai nifer o’r egwyddorion hyn hefyd gael eu rhoi ar waith yng Nghymru.

Ennill y sgiliau cywir

Er bod dymuniad cadarn ymhlith diwydiant adeiladu Cymru i bawb ennill cymwysterau Lefel 3, gwerthfawrogir bod rhaid i brentisiaethau Lefel 2 gael eu cynnal ym maes adeiladu, gan eu bod yn darparu set benodol o sgiliau y mae’r diwydiant eu hangen. Rydym hefyd yn croesawu’r adolygiad o gymwysterau Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig sydd ar y gweill ar hyn o bryd gan Gymwysterau Cymru a fydd, efallai, yn mynd i’r afael ag anomaleddau penodol. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau fod cyllid prentisiaethau’n cefnogi anghenion prentisiaethau a nodir yn lleol trwy’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol. Dylai cyllid prentisiaethau hefyd gael ei dargedu i gefnogi sgiliau ar brosiectau sydd o bwys cenedlaethol, ar sail Gwybodaeth fanwl gywir am y Farchnad Lafur.